Ailgylchu Eich Offer Trydanol!

Os ydych chi'n chwilio am ffordd gyfrifol o waredu eich offer TG a thrydanol diangen, rydym yma i helpu!

Mae Cadwch Gymru’n Daclus, elusen amgylcheddol blaenllaw Cymru, wedi cysylltu â A&LH Environment i gynnig gwasanaeth ailgylchu trydanol diogel a fforddiadwy. Os ydy’n hen liniaduron, gweinyddwyr, monitroedd neu hyd yn oed nwyddau gwyn, rydym yn sicrhau bod popeth yn cael ei ailgylchu – nid ei anfon i dirlenwi.

             
Drwy ddewis ein gwasanaeth, nid yn unig rydych yn cefnogi eich Cyfrifoldeb Cymdeithasol Cwmni ond hefyd yn helpu i ariannu gwaith amgylcheddol pwysig Cadwch Gymru’n Daclus.

Dyma sut mae’n gweithio:

  • Beth all gael ei gasglu? rwtars, cyfrifiaduron desg, tabledi, gliniaduron, teledu, bylbiau fflworwscent, a mwy!
  • Costau’n dechrau o £40 yn unig.
  • Rydym yn ei wneud yn hawdd – anfonwch e-bost atom gyda disgrifiad o’r eitemau, pwysau (os yn bosibl), a’ch lleoliad.

Drwy ailgylchu gyda ni, byddwch hefyd yn cefnogi symudiad Caru Cymru, a chadw cymunedau lleol Cymru’n daclus a gwyrdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.


Barod i drefnu casgliad? Cysylltwch â ni heddiw ar recycling@keepwalestidy.cymru.

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i Ailgylchu trydanol – Keep Wales Tidy – Caru Cymru.


Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i wneud effaith bositif!

Cofion gorau,
Louise
Cadwch Gymru’n Daclus – Tîm Ailgylchu Trydanol