Cyfle i Wirfoddoli – Gelli Aur

Mae Ymddiriedolaeth Gelli Aur yn chwilio am Drysorydd newydd.Rôl wirfoddol yw hon ac mae’n gyfle gwych i ddefnyddio’ch profiad ariannol ac i fod yn rhan o’r cyfnod hollbwysig hwn yn adferiad a datblygiad Ystâd Gelli Aur.

Mae tasgau’n amrywio, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, fancio rhoddion arian parod, cynnal cofnodion ariannol ein Hymddiriedolaeth Elusennol, monitro a chofnodi incwm a gwariant, rhagweld llif arian, ffurflenni TAW a chynhyrchu adroddiadau misol/blynyddol ar gyfer ein cyfarfodydd Bwrdd. Fel arfer byddwn yn cyfarfod unwaith y mis ac, fel Trysorydd, byddwch yn chwarae rhan bwysig yn y cyfarfodydd. Yn ogystal, bydd angen i chi gefnogi ein Cyfrifwyr i baratoi Cyfrifon Blynyddol i’w cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau.

Rydym yn ddelfrydol yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o Gyfrifeg/Cyllid a’r gallu i weithio’n effeithiol gyda rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnwys Ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a chyrff allanol. Dylai fod gennych y gallu i gadw cyfrinachedd, a gweithio’n effeithiol fel chwaraewr tîm, ond yn anad dim, bydd angen synnwyr digrifwch da! a byddwch yn angerddol am helpu i drawsnewid y math hwn o ystâd.

Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau amdani, gweler ein Cyfle a restrir ar Volunteering Wales neu ebostiwch: info@goldengrove.org.uk