Mae Stad Gelli Aur (rhestredig Gradd ll*) yn barcdir coediog syfrdanol o amgylch plasty gyda golygfeydd godidog o ddyffryn Tywi. Bu unwaith yn gartref i deuluoedd Vaughan a Cawdor ac mae hefyd wedi bod yn gartref i goleg amaethyddol. Ymddiriedolaeth y Gelli Aur, sy’n sefydliad elusennol dielw, sy’n gyfrifol am gynnal yr ystâd.
Mae gennym nifer o Gyfleoedd Gwirfoddoli newydd ar gael o fewn yr Ymddiriedolaeth – rydym wedi eu rhestru i gyd ar Volunteering Wales ac ar ein gwefan goldengrove.org.uk
Mae rolau gwirfoddol presennol yn cynnwys:
- Tîm Tiroedd
- Tîm Grantiau
- Llywodraethu
- Cymorth Digwyddiadau
- Codwr arian
- Tîm Amlgyfrwng
- Archifydd