Mae Llywodraeth Cymru a WCVA yn cyd-greu dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru, gyda Gweledigaeth flaengar i’w lywio. Rydym yn gweld gwirfoddoli fel rhywbeth sydd o fudd nid yn unig i’r rhai sy’n cael cymorth, ond hefyd i’r gwirfoddolwyr eu hunain a’r gymuned a’r gymdeithas ehangach. Ein gweledigaeth yw bod gwirfoddoli yn dod yn gryfach fyth fel rhan o’n hunaniaeth a’n diwylliant yng Nghymru. Ein nod yw lledaenu ymwybyddiaeth o’i werth a phwysigrwydd ei fanteision amrywiol, a thrwy hynny gryfhau effaith gwirfoddoli yn y dyfodol ym mhob maes gweithgaredd.
Fel rhan o’r broses cyd-greu, rydym am brofi lefel y gefnogaeth i’r datganiad Gweledigaeth a helpu i’w wella a’i fireinio. Mae arolwg byr wedi’i ddatblygu sy’n rhoi cyfle i chi rannu eich barn ar y Weledigaeth.
Mae’r arolwg ar gyfer unrhyw unigolion a sefydliadau sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr, neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi a datblygu’r ymagwedd at wirfoddoli yng Nghymru.
Gobeithiwn y bydd cynrychiolwyr o’ch sefydliad yn cwblhau’r arolwg a hefyd yn gofyn a fyddech yn rhannu’r cyswllt â’ch aelodau, rhwydweithiau a buddiolwyr, fel y gallwn ymgynghori mor eang â phosibl. Bydd yr arolwg ar agor tan ddiwedd mis Mai 2025.
Cyrchwch yr arolwg yma: https://online1.snapsurveys.com/Interview/70a3f32e-1358-40c5-bda4-f370c1f45ee9
Yn ogystal â’r ar olwg, bydd cyfleoedd ychwanegol i gyfrannu at yr ymgynghoriad Gweledigaeth trwy weithdai a chyfarfodydd rhwydwaith. Mae Fframwaith Cyflawni cysylltiedig hefyd yn cael ei brofi yn y cyfnod cyn gofod3 lle rydym yn bwriadu lansio’r Weledigaeth.
Cysylltwch â Becca Mattingley os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr Ymgynghoriad ar Weledigaeth neu os hoffech glywed mwy am sut y gallwch gymryd rhan.