Gwirfoddoli gyda Home Start Cymru

Ydych chi erioed wedi meddwl am wirfoddoli?

Oes gennych chi ddwy awr o amser rhydd yr wythnos yr hoffech ei ddefnyddio i helpu eraill?

Mae Home-Start Cymru yn elusen sy’n darparu cefnogaeth, arweiniad a chymorth ymarferol i rieni â phlant ifanc, pan fyddan nhw ei angen fwyaf. Gall ein gwirfoddolwyr hyfforddedig gefnogi teulu mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
Gall ein gwaith helpu pawb, waeth beth fo’u hamgylchiadau cymdeithasol neu ariannol.

Mae gwirfoddoli gyda Home Start Cymru yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd ac, yn bwysicaf oll, gwneud gwahaniaeth i deulu yn eich cymuned. Mae gwirfoddolwyr Home Start Cymru yn rhoi cyn lleied â dwy awr yr wythnos o’u hamser rhydd i helpu i newid bywyd rhywun.

Am fwy 0 wybodaeth lawrlwythwch y poster YMA neu gysylltwch a volunteering@homestartcymru.org.uk