Cyfleoedd i wirfoddoli – Ty Hafan

Gwirfoddolwyr Siop, Caerfyrddin a Llanelli

Mae’r cyfle hwn yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau newydd a mwynhau eich hun ar yr un pryd.

Mae ein siopau’n cynhyrchu arian sy’n cefnogi’r teulu cyfan yn uniongyrchol, o ofal meddygol a gwasanaethau therapiwtig i blant, i ofal emosiynol ac ymarferol i deuluoedd, i weithgareddau a phrofiadau cefnogi brodyr a chwiorydd.

Bydd eich rôl yn ein helpu i barhau i ddarparu gofal a chefnogaeth hanfodol i blant Tŷ Hafan a’u teuluoedd.

Am fwy o wybodaeth: https://app.betterimpact.com/PublicOrganization/da36719d-4e27-4d06-9a5f-0402adb06a98/Gvi/cf9deade-f800-4f13-9bc1-41c98bb7575b/1

Gwirfoddolwr Codi Arian

Ydych chi’n chwilio am ffordd hwyliog a gwerth chweil o dreulio’ch amser? Os felly, efallai mai chi yw’r person perffaith ar gyfer ein Rôl Gwirfoddolwr Codi Arian!


Fel Gwirfoddolwr Codi Arian byddwch yn cynorthwyo gyda digwyddiadau codi arian a chasgliadau drwy gydol y flwyddyn, pryd bynnag y gallwch. Byddwch yn ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd ac yn defnyddio eich gwybodaeth am eich ardal leol i hyrwyddo gwaith Tŷ Hafan.

Am ragor o wybodaeth lawrlwythwch y llyfryn: Fundraising Volunteer

I drafod gwirfoddoli gyda Ty Hafan, cysylltwch gyda Laura Terry laura.terry@tyhafan.org