Deall Profedigaeth a Galar

Mae’r wythnos hon, o’r 5ed i’r 11eg o Fai, yn Wythnos Ymwybyddiaeth ‘Dying Matters’. Mae’n gyfle blynyddol i bobl ledled y DU annog eu cymunedau i ddechrau sgyrsiau am farwolaeth a marw ym mha bynnag ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.

 

Yn aml nid oes gennym yr iaith gywir i siarad am farwolaeth a gall olygu nad yw pawb yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Trwy annog sgyrsiau iach am farwolaeth a marw, gallwn weithio tuag at chwalu’r stigma a’r tabŵ sy’n gysylltiedig â marwolaeth.

 

Thema eleni yw ‘mae diwylliant marw o bwys’. Rydyn ni i gyd yn siarad am farwolaeth a marw mewn sawl ffordd, ond rydyn ni’n aml yn rhannu edefyn cyffredin. Eleni rydym yn canolbwyntio ar sut mae cymunedau a diwylliannau gwahanol yn y DU yn teimlo, yn siarad, ac yn delio â marwolaeth, a’r hyn sy’n dod â ni at ein gilydd.

 

Sut ydyn ni’n gweld marwolaeth a marw o fewn amaethyddiaeth? Beth sy’n dod â’n cymuned at ei gilydd? Beth sy’n ein gwneud ni’n debyg neu’n wahanol i gymunedau eraill? Gallwn ni i gyd deimlo effaith colled – ydyn ni fel unigolion yn ei brofi’n wahanol i’n gilydd o fewn y gymuned ffermio?

 

Mae hyfforddiant Deall Profedigaeth a Galar Sefydliad DPJ, ‘Understanding Bereavement and Grief with The DPJ Foundation’, yn un ffordd o siarad am farwolaeth mewn ffordd ddiogel, gyda chefnogaeth. Mae’n sesiwn ar-lein rhad ac am ddim sy’n ceisio gwella’n hyder i gefnogi’r rhai yn ein cymunedau sydd yn profi profedigaeth, trwy adnabod arwyddion galar a gwybod ble i ddod o hyd i gymorth arbenigol.

 

Mae sesiwn y mis hwn ar ddydd Mawrth, yr 20fed o Fai, am 9.30yb – gallwch archebu eich lle am ddim yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/understanding-bereavement-and-grief-by-the-dpj-foundation-tickets-1342781247859  

 

Beth am fanteisio ar y cyfle yr wythnos hon i siarad am farwolaeth mewn ffordd sy’n gweithio i chi – dechreuwch sgwrs roedd yn well gennych ei hosgoi a gweld a allwch weithio drwy’ch pryderon ynghylch dweud y peth ‘anghywir’. Mae’n bosib iawn y bydd ein hyfforddiant ymhen pythefnos yn eich helpu i adeiladu ar y sgyrsiau a gewch yr wythnos hon – gobeithiwn eich gweld yno.