Swydd Ymddiriedolwr ar gael

Mae Area 43 yn Ceisio Enwebiadau ar gyfer Ymddiriedolwyr

Mae Area 43 yn darparu cyfuniad o wasanaethau gwaith ieuenctid, gwasanaethau cwnsela a phrosiectau cymunedol i hyrwyddo datblygiad personol, addysgol, creadigol a chymdeithasol pobl ifanc yng Ngheredigion.

 

Rydym yn chwilio am enwebiadau ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn cefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial, yn enwedig y rhai â chefndir proffesiynol a all gefnogi Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ei rôl ffurfiol i oruchwylio rheoli a gweithrediad strategol yr elusen.  Byddem yn gwerthfawrogi arbenigedd a phrofiad rhywun sydd â chefndir mewn cyllid yn arbennig.

 

Os oes gennych ddiddordeb yn rôl yr Ymddiriedolwr, cysylltwch â Sally Hurman (sallyh@area43.co.uk) am becyn recriwtio.