Mae Ann Davies, Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin, wedi sicrhau cymorth ymarferol i grŵp cymdeithasol dementia yn Llangathen, gan ddarparu gwell mynediad at drafnidiaeth a chefnogaeth wedi’i theilwra gan sefydliadau lleol, yn dilyn pryderon a godwyd yn gynharach eleni.
Yn ystod ymweliad â’r grŵp Dementia yn Llangathen ar 9 Ionawr 2025, gwrandawodd Ann Davies AS yn fanwl ar wirfoddolwyr, gofalwyr a theuluoedd a ddisgrifiodd yr anhawster parhaus o gyrraedd y grŵp oherwydd diffyg opsiynau trafnidiaeth wledig. Mae’r grŵp, sy’n cyfarfod bob dydd Iau rhwng 2 a 4yp yn Neuadd Llangathen ar gyfer ei sesiynau poblogaidd “Paned a Sgwrs”, yn cynnig cymorth hanfodol i unigolion sy’n byw gyda cholled cof, yn ogystal â’r rhai sy’n eu cefnogi.
Nid dim ond man cyfarfod cymdeithasol yw’r grŵp hwn – mae’n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i feithrin cyfeillgarwch, ymlacio a chael cymorth. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys rhannu atgofion, cwisiau, tai chi, canu, adrodd straeon, rhannu gwybodaeth a theithiau achlysurol. Codwyd hefyd bryderon am yr angen am gymorth ychwanegol i ymgysylltu â’r awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ac i feithrin cysylltiadau gyda’r trydydd sector.
Mewn enghraifft bwerus o weithredu’n seiliedig ar anghenion lleol, dychwelodd Ann Davies AS i’r grŵp ddydd Iau, 29 Mai, gyda datrysiadau pwrpasol i’r ddau fater.
Fe wnaeth Ann Davies AS wahodd Rod Bowen a’r Cynghorydd Sharen Davies, y ddau o Drafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi, i’r sesiwn i drafod sut y gallai’r grŵp elwa o drafnidiaeth gynhwysol a hygyrch wedi’i theilwra i anghenion penodol yr aelodau. Mae Dolen Teifi, menter gymdeithasol ddielw wedi’i lleoli yn Llandysul, yn gwasanaethu cymunedau ledled Sir Gâr ac ymhellach, gan ddarparu dros 60,000 o deithiau bob blwyddyn i fynd i’r afael a’r sianelsai sy’n gwynebu cymunedau gwledig.
Hefyd yn bresennol roedd Alison James o Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS), a roddodd gyngor ar sut y gallai’r grŵp feithrin cysylltiadau cryfach â gwasanaethau lleol, gwneud ceisiadau am gyllid, hyfforddi gwirfoddolwyr a chysylltu’n ehangach â rhwydweithiau’r trydydd sector.
Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Ann Davies AS:
“Mae’r grŵp hwn yn sbardun o obaith, cyfeillgarwch a chefnogaeth i unigolion a theuluoedd sy’n delio â realiti dementia o ddydd i ddydd. Cefais fy nghyffwrdd yn ddwfn gan y straeon a glywais ym mis Ionawr, ac roeddwn yn benderfynol o weithredu.
Gyda chefnogaeth partneriaid cymunedol fel Dolen Teifi a CAVS, rydym yn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl – yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig lle gall mynediad at wasanaethau fod yn her wirioneddol. Mae mentrau lleol fel hyn yn dangos gwir gryfder cymuned ac yn pwysleisio pa mor bwysig yw gwrando ac ymateb i anghenion pobl leol.”
Mae’r dull cydweithredol hwn yn tystio i gryfder cynllunio sy’n cael ei arwain gan anghenion cymunedol, gyda Dolen Teifi a CAVS yn cynnig atebion ymarferol a fydd yn cynnal ac yn datblygu Grŵp Dementia Llangathen am flynyddoedd i ddod.