Swyddi Gwirfoddoli Ar Gael

Mae WAMES yn elusen Gymreig sy’n cynrychioli ac yn cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan y cyflwr niwrolegol ME (Myalgic Encephalomyelitis) neu ME/CFS.

I’r rhai sy’n profi ME/CFS, gofalwyr a theuluoedd – dros 13,000 o deuluoedd yng Nghymru – rydym yn darparu gwasanaethau cymorth a gwybodaeth hanfodol a all wella ansawdd eu bywyd. Nod ein heiriolaeth yw newid agweddau a chamddealltwriaethau am y cyflwr a gwella gwasanaethau. Mae’r angen am ein cymorth wedi cynyddu wrth i nifer o bobl â COVID Hirhoedlog ddatblygu ME/CFS.

Daw gwirfoddolwyr o bob cwr o Gymru wrth i ni weithio’n rhithiol.

Ar hyn o bryd mae gennym nifer o Gyfleoedd Gwirfoddoli ar gael. Mae’r rolau hyn yn cynnig y cyfle i gefnogi gwaith WAMES, yr elusen Gymreig sy’n cynrychioli ac yn cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan y cyflwr niwrolegol ME (Myalgic Encephalomyelitis) neu ME/CFS.

Cyfle Trysorydd Gwirfoddol WAMES

Rôl y trysorydd fyddai:

  • Cynnal trosolwg o faterion ariannol WAMES a chynghori’r pwyllgor ar gyllidebau
  • Sicrhau bod cofnodion a gweithdrefnau ariannol priodol yn cael eu cynnal

Byddech chi wedi’ch lleoli gartref, ond yn gweithio gyda’r Tîm Rheoli, ac yn atebol iddo, fel ymddiriedolwr y sefydliad.

Am ragor o wybodaeth lawrlwythwch y ddogfen ganlynol: WAMES Treasurer advert 2025

Cyfle i Ysgrifennydd Gwirfoddol

Rôl yr Ysgrifennydd fyddai:

  • cefnogi’r Cadeirydd i sicrhau bod y Pwyllgor Rheoli yn gweithredu’n esmwyth
  • sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu trefnu a’u cofnodi’n effeithiol
  • cynnal cofnodion a gweinyddiaeth effeithiol

Byddech chi wedi’ch lleoli gartref, ond yn gweithio gyda’r Tîm Rheoli, ac yn atebol iddo, fel ymddiriedolwr y sefydliad.

Am ragor o wybodaeth lawrlwythwch y ddogfen ganlynol: WAMES Volunteer Secretary 2025 ad

Cyfle Gwirfoddoli Gweinyddol

Mae yna ystod eang o weithgareddau gweinyddol gan cynnwys:

  • cefnogi’r Cadeirydd i sicrhau bod y Pwyllgor Rheoli yn gweithredu’n esmwyth
  • sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu trefnu’n effeithiol a bod ganddynt gofnodion cywir
  • cynnal cofnodion a gweinyddiaeth effeithiol

Byddech chi wedi’ch lleoli gartref, ond yn gweithio gyda’r Tîm Rheoli, ac yn atebol iddo, fel ymddiriedolwr y sefydliad.

Am ragor o wybodaeth lawrlwythwch y ddogfen ganlynol:  WAMES Admin volunteer advert 2025