Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn brwdfrydig ymuno â’n tîm AD prysur a chyfeillgar yng nghanol Abertawe (Heol Walter).
Byddwch yn gyfrifol am reoli gweithgareddau AD a recriwtio o ddydd i ddydd o fewn ein swyddogaeth AD. Mae hyn yn cynnwys ymdrin â rheoli salwch ac absenoldeb, goruchwylio recriwtio a chyflogi staff newydd, a darparu cyngor a chymorth rheng flaen ar Gysylltiadau â Chyflogeion ar gyfer ymholiadau AD cyffredinol.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a gwnewch gais drwy glicio ar y tab ‘apply now’ a geir ar y swydd wag hon ar dudalen swyddi gwag cyfredol ein gwefan: https://www.caredig.co.uk/work-for-us/current-vacancies/
Dyddiad Cau 29/06/2025
Dyddiad cyfweliadau: 08/07/2025