Gwirfoddolwch gyda Ramblers Cymru

Rôl Gwirfoddoli: Arolygwr Llwybr

 

Prosiect: Partneriaeth Llwybrau –  Arolygu Hawliau Tramwy Cyhoeddus Sir Gâr

 

Lle byddwch wedi’ch lleoli: Eich Hawliau Tramwy Cyhoeddus agosaf yn Sir Gâr

 

Pam rydyn ni eich angen

Mae gan y sir dros 2000km o hawliau tramwy cyhoeddus, ond dim ond yn rhannol y mae manylion llwybrau, pontydd, camfeydd, gatiau ac arwyddion ar y rhwydwaith llwybrau mwy gwledig a llwybrau ceffylau yn hysbys. Mewn ymdrech i gael y wybodaeth ddiweddaraf, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gâr i hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i gofnodi ac adrodd y materion hyn ar y system mapiau diffiniol ddigidol (CAMS). Ochr yn ochr ag arolygu, bydd gan wirfoddolwyr becyn cymorth sylfaenol hefyd i ganiatáu ar gyfer cynnal a chadw bach ar y llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus.

 

Ydych chi’n credu y dylai pobl gael yr hawl i gael mynediad i gefn gwlad ac eisiau helpu i gasglu data gwerthfawr i helpu i ddatrys problemau? Os felly, gallwch helpu i wneud i hyn ddigwydd.

 

Beth fyddwch chi’n ei wneud

  • Cwblhau arolygon ar lwybrau penodedig yn eich ardal leol (neu mor agos â phosibl).
  • Tynnu lluniau o faterion mynediad neu ddodrefn llwybr.
  • Rhoi wybod am ganfyddiadau’r arolwg ar y Map Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar-lein (CAMS) neu gyflwyno y daflen arolwg i’w huwchlwytho.
  • Cynnal a chadw llwybrau bychain fel clirio llystyfiant ysgafn a gosod disgiau nod ffordd (os oes angen) gan ddefnyddio pecyn cymorth a ddarperir.

 

Y sgiliau sydd eu hangen arnoch

  • Rhoi sylw da i fanylion a bod yn drefnus.
  • Y gallu i ddarllen map (byddwch yn cael y mapiau diffiniol o’r

ardal yr ydych yn ei harchwilio).

  • Mynediad at liniadur neu gyfrifiadur, a rhyngrwyd da a sgiliau digidol da i uwchlwytho lluniau a chofnodion ar y CAMS.
  • Medru cerdded yn gyfforddus yng nghefn gwlad ac ar dir anwastad (bydd gennych opsiwn i ddewis pellter yr arolwg).
  • Sgiliau digidol sylfaenol i uwchlwytho lluniau a gwybodaeth ar rhaglen CAMS (darperir hyfforddiant).
  • Parodrwydd i deithio.
  • Cyfforddus yn defnyddio offer llaw bach (er nad yw’n hanfodol).

 

 

Sut y gallwch chi elwa trwy gymryd rhan

  • Rôl wirfoddol y gellir ei chyflawni yn eich amser eich hun (dros gyfnod o 2 fis).
  • Hyblygrwydd i ddewis ardal arolygu a phellter llwybr.
  • Y gallu i archwilio llwybrau newydd.
  • Costau milltiroedd a gwmpesir.
  • Gwirfoddoli ochr yn ochr ag eraill i helpu i gofnodi, adrodd a chynnal hawliau tramwy cyhoeddus Sir Gâr.
  • Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth drwy gydol y broses.

 

Mynegi diddordeb
E-bostiwch Swyddog Prosiect Sir Gâr – Amy.Goodwin@ramblers.org.uk