Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad

Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad ar agor tan 5.00yp Dydd Llun, 15fed Medi 2025.

Bydd y rownd newydd hon o grantiau ar gyfer cyllid refeniw a chyfalaf yn galluogi Grwpiau Llawr Gwlad a redir gan neu ar gyfer:

  • Pobl o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

  • Pobl o’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.

  • Pobl gydag anabledd yng Nghymru

Mae’r cyllid ar gyfer cyflawni prosiectau 6 mis rhwng Hydref 2025 a Mawrth 2026 sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru drwy weithgareddau celf a diwylliant.

Mae yna fwy or wybodaeth arlein, gyda sesiwn wybodaeth a slot Q&A dydd Mawrth 26 Awst am 11yb drwy Microsoft Teams.