Mae ail gylch cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru ar agor nawr am geisiadau gan ddefnyddio Porth Ymgeisio Amlbwrpas (MAP) CGGC.
Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar brosiectau sy’n trechu’r rhwystrau i wirfoddoli, yn rhoi profiad positif i’r gwirfoddolwr ac sy’n cael effaith hirdymor ar y gymuned.
Bydd cyllid o hyd at £30,000 y flwyddyn ar gael, a’r prosiectau yn cael eu cyflawni dros ddwy flynedd ar y mwyaf. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Hydref 2025 am 11.59 yp.
Gwirfoddoli yw un o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol sy’n olrhain cynnydd Cymru yn erbyn nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yw gwella’r ffordd y mae Cymru yn cyflawni llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.
Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rôl hanfodol mewn helpu mudiadau gwirfoddol i gyflawni eu cenadaethau a’u gwerthoedd. Trwy gyllido mudiadau i gefnogi a hyfforddi unigolion mewn cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd, mae Prif Grant Gwirfoddoli Cymru yn cyfrannu at gymunedau cryfach a newid positif parhaol.
Mae’r prosiectau sydd wedi’u cyllido drwy’r cynllun eisoes wedi cael effaith ystyrlon ar hyd a lled Cymru, ac wedi bod yn fuddiol i wirfoddolwyr a’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Os oes gan eich mudiad ddiddordeb mewn manteisio ar Gynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru, ewch i dudalen grantiau Gwirfoddoli Cymru i ddarllen canllawiau llawn y cynllun neu cysylltwch â grantiaugwirfoddolicymru@wcva.cymru.
Bydd sesiwn wybodaeth yn cael ei chynnal ar-lein ar 2 Medi 2025 rhwng 10.30am a 12.30pm. Cofrestrwch yma os hoffech fynychu.
Gellir gwneud ceisiadau drwy MAP, Porth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC. I gofrestru a gweld y cyfleoedd cyllido presennol gan CGGC, ewch i map.wcva.cymru.