AilGysylltu – Calendr Mis Hydref

Dyma ein calendr digwyddiadau a sesiynau ar gyfer mis Hydref.

Mae’r sesiynau i gyd am ddim, ond nodwch fod pecynnau ar gyfer crefftau yn cael eu hanfon allan ar y 15fed o’r mis cynt (yn yr achos hwn Medi 15fed ar gyfer sesiynau mis Hydref) felly mae angen archebu cyn hynny.

Gellir archebu sesiynau crefft unrhyw bryd hyd at y sesiwn, ond ni fydd y pecynnau ar gael os byddwch yn archebu ar ôl y 15fed. Rydym yn rhannu rhestr o’r holl ddeunyddiau sydd eu hangen, felly gallwch gyflenwi eich rhai eich hun os dymunwch.

Mwy o wybodaeth ac archebu lle: www.eventbrite.co.uk/o/reconnecting-32213749747