Mae rhywbeth newydd yn dod o WCVA yr Hydref hwn: Baromedr Cymru, ffynhonnell ddata dreigl a fydd yn rhoi darlun cyfoes inni o’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Trwy gofrestru, Yn gyfnewid am ychydig o amser bob chwarter, byddwch yn derbyn data personol a allai fod yn newidiwr gêm wrth wneud eich penderfyniadau. Bydd Baromedr Cymru yn tynnu ar fewnbwn gan grŵp craidd o bobl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli mewn sefydliadau gwirfoddol ledled y wlad.
Bydd Baromedr Cymru yn helpu i:
- Bledio’r achos i’r llywodraeth a chyllidwyr
- Lunio cymorth a gwasanaethau mwy clyfar
- Olrhain newidiadau dros amser a chanfod problemau sy’n dod i’r golwg
- Sicrhau bod ein profiadau cyfunol yn dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi
Nid ymchwil er mwyn ymchwil mo hwn. Mae’n dystiolaeth â diben – a chi sydd yn ei ganol. Mae Baromedr Cymru yn ymwneud â chryfhau ein llais fel sector. Rydyn ni eisiau lleihau dyblygu, rhannu mewnwelediadau a gwneud yn siŵr bod mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cael eu gweld, eu clywed a’u deall.
Felly ymunwch â ni. Rhannwch brofiad eich mudiad. A helpwch ni i lunio’r dyfodol.
Gallwch ddarllen mwy yma neu gofrestru yma.