Cynhadledd Fel Merch yr Urdd

Mae gan Yr Urdd gyfle cyffrous yn fuan, sef ein Cynhadledd Genedlaethol #FelMerch, a gynhelir yng Nghaerdydd ar 13 Tachwedd.

Mae’r gynhadledd ysbrydoledig hon wedi’i hanelu at ferched ifanc rhwng 16–25 oed, ac wedi’i chynllunio i’w cefnogi a’u grymuso i aros yn actif, gan dorri’r rhwystrau sy’n atal cyfranogiad mewn chwaraeon.

Bydd y gynhadledd yn ddigwyddiad mwyaf Cymru ar gyfer chwaraeon ieuenctid i ferched, gan ddarparu cyfle unigryw i ferched ifanc ddod at ei gilydd i ddysgu, rhwydweithio a chael eu hysbrydoli.

Bydd gweithdai gan arbenigwyr yn eu meysydd yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i Calisthenics
  • Bocsio gyda Rosie Eccles
  • Atal anafiadau
  • Gweithdy #FelMerch
  • Iechyd a lles i ferched mewn chwaraeon
  • Cyfarfod â’r diwydiant

Mae’r digwyddiad yn rhan o brosiect etifeddiaeth Llywodraeth Cymru i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed merched Cymru yn cyrraedd Pencampwriaeth Ewrop UEFA am y tro cyntaf.

Os ydych chi rhwng 16 a 25 oed ac â diddordeb mewn mynychu, defnyddiwch y cod QR neu cliciwch ar y daflen isod i gofrestru.