Sesiwn Sgiliau Llywio i Ddechreuwyr

Mae Ramblers Cymru yn ôl y mis nesaf gyda’u sesiwn sgiliau llywio.

Ymunwch y digwyddiad AM DDIM hwn i ddysgu am symbolau a nodweddion mapiau OS, sut i ddefnyddio cyfeiriadau grid, ac i wella eich dealltwriaeth o fynediad i gefn gwlad.

Byddwn yn mynd am dro bach i ymarfer ein sgiliau newydd. Darperir te, coffi a bisgedi.

Archebwch eich lle: https://www.eventbrite.co.uk/…/paths-and-maps…