Mae Llywodraeth Cymru am wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a’r manteision sydd ynghlwm wrth ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn 2026, a hynny drwy gefnogi prosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau newydd ac arloesol ar Ddydd Gŵyl Dewi 2026 a hyd at y dyddiad hwnnw (16 Chwefror – 1 Mawrth 2026). Bydd y rhain yn cael eu cynnal yng Nghymru ac yn hyrwyddo diwylliant traddodiadol a chyfoes Cymru fel cerddoriaeth, celf, llenyddiaeth, chwaraeon, bwyd a’r Gymraeg.
Gyda chyfanswm o £750,000 ar gael ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Dewi 2026, gall sefydliadau o bob maint wneud cais, o grwpiau lleol bach i ddigwyddiadau cenedlaethol. Gall ceisiadau wneud cais am grantiau sy’n amrywio o £1,000 i £40,000 ar gyfer prosiectau, digwyddiadau neu weithgareddau dathlu.
 diddordeb? Cliciwch yma i gael gwybod mwy.