Rheolwr Darpariaeth Y Gweithle

Ymunwch â Ni yn Addysg Oedolion Cymru – Lle Mae Dysgu’n Trawsnewid Bywydau

Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn fod addysg yn arf pwerus ar gyfer trawsnewid personol a chymunedol. Fel prif ddarparwr dysgu cymunedol i oedolion Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n grymuso unigolion i wireddu eu potensial a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu mynediad at ddysgu a sgiliau, gan feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pawb ffynnu.

Graddfa Gyflog: UPS1 £46,431.08 to M1 £50,319.89

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm Darpariaeth Gweithle. Fel Rheolwr Darpariaeth Gweithle, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein gweithgareddau cynhyrchu incwm a thwf masnachol drwy gynyddu gweithgareddau masnachol y sefydliad sy’n gysylltiedig â chyflogwyr.

Click here for more information