Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru yn cynnal Gweithdy Cartrefi Cynnes i ofalwyr di-dâl ar 27 Ionawr yng Ngwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin. Bydd y gweithdy’n cynnwys cinio am ddim, yn ogystal â Phecyn Arbed Ynni Cartrefi Cynnes am ddim i bawb sy’n mynychu. Gall gofalwyr hefyd dderbyn taleb bwyd/tanwydd gwerth £100 os ydynt ar incwm isel, Lwfans Gofalwr neu fudd-dal arall sy’n seiliedig ar brawf modd.
Cliciwch yma i archebu eich lle – mae archebu’n hanfodol, gan fod disgwyl i leoedd lenwi’n gyflym.