Baromedr Cymru: Sut mae Eich Sefydliad yn Gwneud?

Sut mae eich sefydliad yn ymdopi yn yr hinsawdd ariannol a gwleidyddol bresennol? Ydych chi wedi ystyried sut mae eich profiad yn cymharu â sefydliadau trydydd sector eraill?

Mae Baromedr Cymru yn casglu gwybodaeth gan sefydliadau trydydd sector ledled Cymru, gan helpu i adeiladu darlun cliriach o’r sector gwirfoddol trwy dueddiadau cyfredol, mewnwelediadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a delweddiadau data hygyrch. Ychwanegir gwybodaeth newydd yn rheolaidd, gyda data’n cael ei gasglu bob chwarter a phob arolwg yn canolbwyntio ar bwnc penodol.

Er enghraifft, mae canfyddiadau diweddar yn dangos bod 48% o sefydliadau’n defnyddio eu cronfeydd wrth gefn i gwrdd â chostau gweithredol cynyddol. Yn ogystal, mae 35% yn nodi anawsterau wrth recriwtio gwirfoddolwyr, tra bod 31% yn ei chael hi’n anodd eu cadw.

Gall y wybodaeth a ddarperir gan Baromedr gefnogi gwneud penderfyniadau strategol a helpu i ychwanegu cyd-destun a thystiolaeth o effaith gymdeithasol at geisiadau am gyllid. Wrth i fwy o ddata gael ei gasglu dros amser, bydd hefyd yn galluogi cymariaethau mwy manwl a lleol.

Mae’r arolwg diweddaraf ar agor tan 24 Chwefror – cliciwch yma i gymryd rhan.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, mae CAVS yma i helpu. Gallwch ein ffonio ar 01267 245555 neu anfon e-bost atom.