Mae Clwb Pêl-gôl Gwiberod Gorllewin Cymru yn hyfforddi unwaith y mis yn Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin. Ma’ pêl-gôl yn gamp Baralympaidd i bobl ddall a phobl â nam ar y golwg. Mae tîm Gorllewin Cymru yn gwneud yn arbennig o dda. Chwaraeon ni ein twrnamaint cynta’ yn Rhydychen ym mis Medi ac enillon ni’r fedal aur!
Ry’n ni’n hyfforddi ar un dydd Sadwrn y mis ac mae pob sesiwn yn cynnig 5 awr o wirfoddoli – mae gwirfoddolwyr yn helpu gosod y cwrt ac adeiladu’r gôls, wedyn yn helpu fel ‘goal judge’ yn ystod y sesiwn hyfforddi (bydden ni’n dweud wrthyn nhw beth i’ wneud), a wedyn helpu tynnu’r gols a’r cwrt i lawr ar ddiwedd y sesiwn. A wedyn mae bwffe am ddim ar y diwedd.
Mae croeso i chwaraewyr newydd o bob oed hefyd, felly os ydych chi’n gwybod am unrhyw un sy’n ddall neu a nam ar y golwg fyddai eisiau rhoi tro arni, byddai croeso iddyn nhw ymuno â ni.
Os oes unrhyw un â diddordeb mae croeso iddyn nhw gysylltu â Helen Mainwaring ar westwalesgoalball@gmail.com
Ma’ gyda ni dudalen Facebook hefyd – West Wales Vipers Goalball Club a chyfrif Instagram @westwalesgoalball.