Cyfleoedd i Wirfoddoli

Mae’r profiad o wirfoddoli’n lleol yn gyfle i fagu hyder, datblygu sgiliau a fydd o ddefnydd i ti mewn meysydd gwahanol yn y dyfodol yn ogystal ag ar gyfer y byd gwaith. Mae cyfleoedd gwirfoddoli’r Fenter yn ymwneud â phrofiad cymryd cyfrifoldeb a gwneud penderfyniadau, a chyfrannu at y gymuned a dy helpu di i ddatblygu dy sgiliau yn y Gymraeg.

 

Byddwn yn gwobrwyo’n gwirfoddolwyr gyda Chredydau Amser Tempo a bydd modd i ti gofrestru ar gyfer y cynllun ymlaen llaw. Yna, ar ôl i ti wirfoddoli, gelli di gyfnewid dy gredydau(credits) am docynnau, neu fynediad i leoliadau gwahanol, e.e. Xcel Bowl, Hanger 5, Scarlets, Parc Penbre a llawer mwy.

 

Y newyddion da ydi ein bod ni’n brysur yn trefnu amrywiaeth o gyfleoedd i ti wirfoddoli , gweler posteri islaw am Gŵyl Fach Newy, Ras Bryndioddef (Castell Newydd Emlyn) a Gŵyl Canol Dre (Caerfyrddin)

Gŵyl Fach Newy 6.6.2026 Castell Newydd Emlyn   Ras Bryndioddef 16.6.2026 Castell Newydd Emlyn

Gŵyl Canol Dre 11.7.2026 Parc Myrddin Caerfyrddin

Bydd Menter Gorllewin Sir Gâr yn cynnal ein gŵyl, sef Gŵyl Canol Dre ar ddydd Sadwrn yr 11eg o Orffennaf 2026. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal unwaith eto ar gae Parc Myrddin.

Bydd yn ŵyl llawn hwyl, gyda rhywbeth at ddant pawb o bob oed!

 

Rwy’n cysylltu â ti i weld a hoffet wirfoddoli gyda’r Fenter yn ystod Gŵyl Canol Dre.

Dyma’r slotiau amser sydd ar gael. Mae croeso i ti ddewis y slot(iau) sydd yn gyfleus i ti:

 

  • drwy’r dydd – o 10 am tan 9 pm
  • bore – 10 am – 12.30
  • canol dydd 12 – 3
  • prynhawn – 2.30 pm – 5.30 pm
  • hwyr 5 – 9

 

Byddwn yn trefnu nifer o weithgareddau ac mae croeso i ti nodi os oes diddordeb gyda ti mewn maes / meysydd penodol, e.e. dawns, celf, cerddoriaeth, chwaraeon ac ati er mwyn i ti fod mewn man ble fyddi di’n mwynhau.

 

 

Os oes diddordeb gyda ti, a elli di lenwi’r ffurflen yma gan nodi pryd fyddi di eisiau gwirfoddoli (slot amser) ac os oes diddordeb gyda ti mewn maes penodol.

 

Diolch am dy amser ac edrychaf ymlaen at glywed wrtho ti.

Thank you for your time, and I look forward to hearing from you.