Byddwch yr wyneb cyfeillgar newydd yn eich siop elusen Tŷ Hafan leol!
Mae’r cyfle hwn yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau newydd a mwynhau eich hun ar yr un pryd.
Mae ein siopau’n cynhyrchu arian sy’n cefnogi’r teulu cyfan yn uniongyrchol, o wasanaethau therapiwtig i blant, i ofal emosiynol ac ymarferol i deuluoedd, i gefnogaeth i frodyr a chwiorydd, gweithgareddau a phrofiadau.
Bydd eich rôl yn ein helpu i barhau i ddarparu gofal lliniarol a chefnogaeth i blant Tŷ Hafan, tra hefyd yn cefnogi eu teuluoedd.
Uchelgais Tŷ Hafan yw, pan fydd bywyd plentyn yn fyr, na ddylai unrhyw deulu orfod ei fyw ar eu pen eu hunain.
Ystyriaethau:
Oedran: 16+
Ymrwymiad: Mae ein siopau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 9am-4:45pm ac rydym yn gwerthfawrogi unrhyw amser y gallwch ei sbario, ond yn ddelfrydol o leiaf 2 awr yr wythnos.
Bydd sifftiau’n cael eu trafod yn ystod eich sgwrs anffurfiol.
Gwiriadau cefndir: Byddwn yn gofyn i chi roi manylion dau ganolwr inni.
Mae gweithgareddau’n cynnwys:
• Rhoi croeso cynnes a chyfeillgar i bob cwsmer sy’n dod i mewn i’r siop;
• Helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i eitemau maen nhw’n chwilio amdanyn nhw;
• Gwasanaethu cwsmeriaid wrth y til;
• Cymryd rhoddion a hyrwyddo Cymorth Rhodd;
• Gwerthu a phrosesu ein tocynnau raffl/loteri;
• Gweithredu fel llysgennad i Dŷ Hafan, gan hyrwyddo ein Huchelgais Fawr o fewn eich cymuned leol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch deborah.john@tyhafan.org