Garddwriaeth a Chynnal a Chadw Parciau
Mae ein tîm o wirfoddolwyr yn gofalu am yr ardd a’r parcdir. Byddai’r rôl hon yn addas i rywun sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored a bydd yn cynnwys tyfu ffrwythau a llysiau o hadau, chwynnu, atgyweirio a chlirio llwybrau. Nodwch fod llawer o’n gweithgareddau gardd yn eithaf corfforol.
Mae diwrnodau gwirfoddoli garddwriaethol ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, 9.30am-3pm.
Gwirfoddolwr Derbynfa
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys croesawu ymwelwyr i’r parc. Mae angen sgiliau rhyngbersonol da, gan fod y rôl hon yn cynnwys cyfarfod a chyfarch ymwelwyr yn ogystal â rhoi gwybodaeth iddynt.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag AnneMay@tywigateway.org.uk