DIWEDDARIAD 10 MAWRTH: Mae’r cyflog cychwynnol wedi’i newid i £13/awr gan godi i £14/awr ar ôl cyfnod prawf llwyddiannus. Mae’r disgrifiad swydd sydd wedi’i gysylltu isod wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu hyn.
Mae Canolfan y Dywysoges Gwenllian yng Nghydweli yn chwilio am Weinyddwr Canolfan Gymunedol i helpu gyda gweithrediadau dyddiol y ganolfan, gan ganolbwyntio’n bennaf ar gyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau marchnata, cynnal cynnwys y wefan a meithrin perthnasoedd cryf â chwsmeriaid, gwirfoddolwyr a defnyddwyr y ganolfan.
Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r hyn sydd ei angen, gallwch chi lawrlwytho manyleb y swydd a manylion sut i wneud cais yma.