Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, un o ŵyliau diwylliannol mwyaf Ewrop, yn digwydd ar garreg ein drws o’r 1-8 Awst 2026 yn Llantwd, Gogledd Penfro.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod CAVS, PAVS a CAVO yn partneru gyda’r Eisteddfod a CGGC i redeg Hwb y Sector Gwirfoddol ar y Maes.

Byddem wrth ein bodd yn arddangos gwaith arbennig ein haelodau, gan ddangos y gwahaniaeth enfawr a wnewch i gymunedau lleol bob dydd.

I fynegi eich diddordeb mewn ymuno â ni yn yr Hwb, llenwch y ffurflen hon gyda’r dyddiadau yr hoffech ymuno ynghyd â syniad o unrhyw weithgareddau yr ydych yn gallu eu cynnig. Mae lle yn yr Hwb yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i fudiadau lleol, fodd bynnag, bydd gofyn i fudiadau a grwpiau dalu y ffi mynediad.

Sylwch mai ffurflen yw hon i fynegi diddordeb yn unig. Bydd nifer y dyddiau y gallwn eu cynnig i bob mudiad yn dibynnu ar lefel gyffredinol o ddiddordeb i sicrhau bod gan bawb y cyfle i gymryd rhan.

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw Dydd Gwener 24 Ebrill.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â Kate Gobir yn CGGC.