Mae MESS UP THE MESS (MUTM) yn gwmni theatr ieuenctid sydd wedi ennill
gwobrau ac mae wedi’i lleoli yn Rhydaman a Dyffryn Aman.
Rydyn ni’n chwilio am bobl o bob math o gefndiroedd, ond rhaid eich bod chi’n
frwdfrydig am y celfyddydau a’u potensial i newid bywydau pobl ifanc. Os oes
gennych chi’r sgiliau neu’r profiad ym maes cyllid, cynllunio busnes,
marchnata, codi arian neu fenter gymdeithasol neu rydych chi eisiau’r cyfle i
wneud gwahaniaeth, hoffen ni glywed gennych.
Rydym yn chwilio am aelodau cyffredinol y bwrdd yn ogystal â Thrysorydd gwirfoddol..
Lawrlwythwch y taflenni isod am ragor o wybodaeth, neu cysylltwch â ni: hello@messupthemess.co.uk