Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr

Mae Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen (gan gynnwys Dolen Teifi Community Transport) yn recriwtio Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr (17.5 awr yr wythnos, £25,000 y flwyddyn pro rata, contract 24 mis) i helpu datblygu a chryfhau gwirfoddoli ar draws cymunedau yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a rhannau o Ogledd Sir Benfro.
 
Bydd y rôl yn arwain ar recriwtio, cefnogi a datblygu gwirfoddolwyr, yn ogystal â helpu’r sefydliad i gyflawni safon ansawdd Investing in Volunteers.
 
Am ragor o wybodaeth neu i drafod y rôl yn anffurfiol, cysylltwch â Rod Bowen – rod@dolenteifi.org.uk
01559 362403.
 
 Dyddiad Cau:  4:00yh  ddydd Gwener 3 Gorffennaf 2026.