Mae Gwobrau Gwirfoddolwyr CAVS bellach ar agor ar gyfer enwebiadau. Pwrpas y Gwobrau yw cydnabod a dathlu’r gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i gymunedau yn Sir Gâr ac iddyn nhw eu hunain.
Mae chwe chategori ar gyfer enwebiadau eleni:
- Grŵp Gwirfoddolwyr Oedolion
- Grŵp Gwirfoddolwyr Ifanc
- Arweinyddiaeth y Bwrdd
- Gwirfoddolwr Oedolion
- Gwirfoddolwr Ifanc
- Cydnabyddiaeth Arbennig
Mae’r wobr Cydnabyddiaeth Arbennig ar gyfer gwirfoddolwr unigol, neu grŵp o wirfoddolwyr, nad ydynt yn ffitio i mewn i unrhyw un o’r categorïau eraill.
Gwahoddir y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol i fynychu ein Seremoni Gwobrau Gwirfoddolwyr ddydd Gwener 20 Tachwedd (lleoliad i’w gyhoeddi’n agosach at y dyddiad). Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 16 Hydref.
Am ragor o wybodaeth, ac i gyflwyno eich enwebiad, cliciwch yma.