CCB CGGSG

Mae CAVS yn cynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Gwener 20 Tachwedd am 10am yn yr Ivy Bush Royal Hotel, Caerfyrddin. Fyddwn yn cyflwyno’r gwobrau gwirfoddoli yn ystod y cyfarfod hefyd, a darperir cinio ar y dydd.

Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle i chi leisio eich barn ar y gwasanaethau a’r gefnogaeth y bydd CAVS yn eu darparu yn y dyfodol.

Yn unol â chylchdroi ymddiriedolwyr, mae lleoedd ar gael ar Fwrdd Ymddiriedolwyr CAVS.  Os ydych yn aelod o CAVS, gallwch enwebu cynrychiolydd o’ch sefydliad ar gyfer un o’r lleoedd hyn (sylwer bod yn rhaid cael caniatâd yr enwebai a chytundeb yr aelod-sefydliad). Os hoffech enwebu rhywun, rhowch wybod i ni ddim hwyrach na hanner dydd ddydd Gwener, 13 Tachwedd 2026.

Mae enwebu aelod i Fwrdd CAVS yn un o fanteision aelodaeth ac mae ein hymddiriedolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod CAVS yn cyflawni ac yn cyrraedd ein nodau.  Rydym yn arbennig o ddiolchgar am yr amser y mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ei roi i lywio CAVS fel sefydliad a llywio ein gwaith nawr ac yn y dyfodol gan ganiatáu i ni gefnogi sefydliadau fel eich un chi yn Sir Gâr

Gallwch archebu eich lle yma.