Mae cyfle cyffrous wedi codi i rywun sy’n angerddol am fwyd a ffermio Sir Gâr – ac adeiladu mudiad ledled y sir ar gyfer prynu, gweini a gwerthu bwyd lleol a chynaliadwy.
Bydd y swydd lawrydd tymor byr hon yn cynnwys dod â chynhyrchwyr bwyd, manwerthu, lletygarwch a chwsmeriaid preifat at ei gilydd i ddatblygu marchnad ffermwyr ar-lein, ac i weithio gyda thîm ehangach ledled y rhanbarth i dreialu llwybrau casglu a chyflenwi ‘dolen fwyd dda’.
Mae Bwyd i’r Rhanbarth yn brosiect Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys Partneriaethau Bwyd Lleol Bwyd Sir Gâr, Bwyd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Y partner arweiniol yw Bwyd Abertawe a gynhelir gan 4TheRegion.
Darganfyddwch fwy drwy glicio yma.