Beth yw CAVS?
Mae CAVS yn elusen annibynnol, y corff ymbarél ar gyfer y trydydd sector yn Sir Gâr.
Mae CAVS yn cynnig gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i fudiadau a grwpiau cymunedol, gan eu galluogi i ddod yn gynaliadwy ac yn effeithiol.
Datganiad O Genhadaeth CAVS
I feithrin, datblygu, ehangu a chefnogi trydydd sector cynaliadwy a bywiog, lle mae gwirfoddoli a gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi, er budd cymunedau a dinasyddion Sir Gaerfyrddin.
I ddarparu arweiniad, cymorth a chefnogaeth i sefydliadau a grwpiau cymunedol, gan eu galluogi i ddod yn gynaliadwy ac yn effeithiol. Gweithio mewn partneriaeth ac ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol, ein nôd yw i gryfhau a grymuso sefydliadau’r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin.
CTSC – Cefnogi Trydydd Sector Cymru

Mae CAVS yn rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Nod y rhwydwaith yw galluogi’r trydydd sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfrannu’n llawn at lesiant unigolion a chymunedau, yn awr ac at y dyfodol.
Rydym yn gweithio ar draws 4 colofn i gefnogi’r trydydd sector ac yn gweithio gyda phartneriaid allweddol yn y sectorau cyhoeddus, busnes, ymchwil a hwyl.
Llywodraethu da
Gall staff datblygu CAVS eich cynorthwyo i nodi, datblygu a chofrestru’r strwythur cywir ar gyfer eich sefydliad, gallant hefyd helpu i adolygu a diweddaru eich dogfennau, polisïau a gweithdrefnau llywodraethu.
Gweler ein hadran Llywodraethu Da
- Lledaenu gwybodaeth a chyngor
- Cyfansoddiadau a Strwythurau Cyfreithiol
- Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu
- Hyrwyddo systemau sicrhau ansawdd
Cyllid Cynaliadwy
CAVS yw cefnogi sefydliadau i sicrhau a chynhyrchu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i dyfu, goroesi a bod yn gynaliadwy.
Gweler ein hadran Cyllid Cynaliadwy.
- Lledaenu gwybodaeth a chyngor
- Hwyluso mynediad at wasanaethau a buddion ymarferol
- Darparu mynediad at gyllid
- Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu
- Cefnogi modelau darparu gwasanaethau a mentrau newydd
- Platfform am ddim i chwilio am arian – Cyllido Cymru
Ymgysylltu a Dylanwadu
Mae CAVS yn rhoi cyfleoedd i chi rwydweithio, dysgu, cefnogi ei gilydd a rhannu arfer gorau.
Gweler ein hadran Ymgysylltu.
- Darparu gwybodaeth a chyngor ar bolisi
- Codi llais y trydydd sector
- Cefnogi ymgyrchu
Gwirfoddoli
Gall Canolfan Wirfoddoli CAVS gefnogi unigolion sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli a helpu sefydliadau i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr.
Gweler ein hadran Gwirfoddoli.
- Darparu grantiau
- Galluogi recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr
- Cefnogi rheoli gwirfoddolwyr
- Hwyluso rhwydweithiau a chyfathrebu
- Hyrwyddo cydnabod a gwobrwyo
- Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu
CTSC - Adnoddau Trydydd Sector Ar-lein
Mae CTSC wedi datblygu cyfres o wefannau sy’n darparu adnoddau ar-lein am ddim i gefnogi’r Trydydd Sector ar draws y 4 colofn hyn.
Datblygu a Dysgu
Mae CAVS yn cefnogi dysgu a datblygu yn y Trydydd Sector. Rydym wedi sefydlu porth dysgu ar-lein newydd i gefnogi gwirfoddoli a hefyd i ddarparu cyrsiau hyfforddi, gweithdai, sesiynau ymwybyddiaeth ac ati ar bynciau perthnasol.
Gweler ein hadran Dysgu.
Gwasanaethau cymorth Swyddfa CAVS
Mae CAVS hefyd yn darparu nifer o wasanaethau ymarferol gan gynnwys benthyg offer hyfforddiant, a hurio ystafell gyfarfod yn y swyddfa yng Nghaerfyrddin. Ewch i Gwasanaethau cymorth Swyddfa CAVS.
Aelodaeth CAVS
Mae aelodaeth CAVS yn agored i bob grŵp gwirfoddol a chymunedol sy’n gweithio, neu’n darparu gwasanaethau, yn Sir Gâr. Ewch i Aelodaeth CAVS
CCB CAVS a Adroddiad Blynyddol 2023
Cynhaliodd CAVS ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Y Mwnt ddydd Gwener 10 Ionawr 2025.
Roedd y cyfarfod hefyd yn cynnwys crynodeb o waith CAVS dros y flwyddyn ddiwethaf ac amlinelliad o’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae Adroddiad Blynyddol 2023-24 ar gael i’w lawrlwytho isod: