Buddion Aelodaeth

Ymgynghoriaeth Codi Arian

Cefnogaeth i ddatblygu eich strategaeth codi arian.

Buddion

  • Gwybodaeth am gyfleoedd ariannu lleol a rhanbarthol
  • Esboniadau ariannu rheolaidd
  • Hyfforddiant a chyngor ariannu ar ddatblygu cymysgedd ariannu cynaliadwy
  • Digwyddiadau ariannu e.e. Cwrdd â’r Cyllidydd/Ffeiriau Ariannu/gweithdai misol
  • Cymorth i ddefnyddio Funding Cymru
  • Prawf ddarllen ceisiadau am arian

Cyllid

Manteisio ar gyfleoedd arian grant CAVS.

Buddion

  • Cyfle cyntaf i gynnig am grantiau y mae CAVS yn eu dosbarthu
  • Datblygu partneriaethau i gynnig am arian

Dysgu a Datblygu

Gwella gwybodaeth a sgiliau

Buddion

Gwiriad Iechyd

Cyngor ar redeg eich mudiad. Mae’n cynnwys gwiriad iechyd llywodraethiant rhad ac am ddim.

Buddion

  • Gwiriad iechyd llywodraethiant rhad ac am ddim i’ch grŵp neu fudiad wedi dod yn aelod.
  • Arweiniad ar ddogfennau llywodraethu, cyfle i ddefnyddio templedi enghreifftiol ar gyfer polisïau, asesiadau risg ac ati
  • Arweiniad ar sut i reoli eich mudiad yn ddiogel, cyfreithiol a chynaliadwy
  • Sesiwn hyfforddiant pwrpasol un-tro ar gyfer eich Ymddiriedolwyr/Aelodau’r Bwrdd
  • Cefnogaeth i’ch helpu i recriwtio aelodau i’r bwrdd

Cymorth gyda Gwirfoddolwyr

Cefnogaeth i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr.

Buddion

  • Cymorth gyda recriwtio gwirfoddolwyr trwy Gwirfoddoli Cymru
  • Arweiniad ar ddogfennau llywodraethu, cyfle i ddefnyddio templedi enghreifftiol ar gyfer polisïau ac ati
  • Arweiniad ar hyfforddi a rheoli gwirfoddolwyr
  • Aelodaeth o CVON, ein rhwydwaith darparwyr gwirfoddoli
  • Cymorth i gysylltu, annog ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr ifanc
  • Mae CAVS yn cydnabod a dathlu gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol

Rhwydweithiau

Mynychu ein cyfarfodydd rhwydwaith Trydydd Sector thematig lleol.

Buddion

  • Agendau amserol a chyflwyniadau a thrafodaethau perthnasol. e.e.  croesawodd y Rhwydwaith Plant a Phobl Ifanc Gomisiynydd Plant Cymru
  • Cysylltu â mudiadau eraill sy’n gweithio yn yr un maes
  • Rhannu a derbyn gwybodaeth ac enghreifftiau o arfer da
  • Ymuno ag unrhyw rwydweithiau sy’n ddefnyddiol ichi:

Newyddion

Cyfleoedd i rannu newyddion a digwyddiadau ar draws ein cymuned.

Buddion

  • Mynediad i lecyn aelodau y wefan (yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd)
  • Tanysgrifio i e-fwletin Trydydd Sector CAVS
  • Cyflwyno gwybodaeth (e.e. diweddariadau, digwyddiadau, cyfleoedd swyddi ) i’w rhannu yn e-fwletin CAVS
  • Hysbysebu cyfleoedd swyddi ar wefan CAVS a sianeli cyfryngau cymdeithasol

Gostyngiadau

Prisiau gostyngol ar ystafelloedd, offer a hyfforddiant.

Buddion

  • Gostyngiadau ar logi ystafelloedd cyfarfod yn ein swyddfa
  • Gostyngiadau ar wasanaethau llungopïo
  • Gostyngiadau ar gyrsiau hyfforddiant am dâl CAVS
  • Gostyngiadau ar logi offer: system sain sylfaenol, profwr PAT

Mynnwch wrandawiad

Byddwn yn cynrychioli eich llais gyda chyrff sector lleol yn Sir Gaerfyrddin.

Buddion

  • Mae CAVS yn cynrychioli’r Trydydd Sector ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a  phartneriaethau eraill
  • Po gryfaf a mwyaf cysylltiedig ein haelodau – po gryfaf a mwyaf dylanwadol y gall llais y Trydydd Sector fod yn Sir Gaerfyrddin
  • Helpwch ni i’ch cynrychioli yn fwy effeithiol

Camau i ddod yn aelod

1. Gwneud cais

Llanwch y ffurflen gais. Byddwn yn gwirio eich manylion ac yn cysylltu â chi am y camau nesaf.

2. Danfon dogfennau

Byddwn yn gofyn ichi ddanfon eich dogfen Lywodraethu a 3 dogfen bolisi:

  • Iechyd & Diogelwch
  • Diogelu
  • Cydraddoldeb & Amrywiaeth

3. Sgwrsio â ni

Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu amser i gael sgwrs a chwblhau eich proses gwneud cais am aelodaeth.