Aelodaeth CAVS

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Dewch yn aelod o CAVS – am ddim!

Dewch yn aelod er mwyn cael adnoddau a chefnogaeth.
Dewch yn rhan o rwydwaith sy’n cydweithio er lles Sir Gaerfyrddin.
Gyda’n gilydd gallwn ddod yn fwy gwybodus ac adeiladu llais cryf ac unedig.

Mae mwy o fanylion am Feini Prawf Cymhwysedd ar gael isod.

Buddion Aelodaeth

Ymgynghoriaeth Codi Arian

Cefnogaeth i ddatblygu eich strategaeth codi arian.

Cyllid

Manteisio ar gyfleoedd arian grant CAVS.

Dysgu a Datblygu

Gwella gwybodaeth a sgiliau

Gwiriad Iechyd

Cyngor ar redeg eich mudiad. Mae’n cynnwys gwiriad iechyd llywodraethiant rhad ac am ddim.

Cymorth gyda Gwirfoddolwyr

Cefnogaeth i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr.

Rhwydweithiau

Mynychu ein cyfarfodydd rhwydwaith Trydydd Sector thematig lleol.

Newyddion

Cyfleoedd i rannu newyddion a digwyddiadau ar draws ein cymuned.

Gostyngiadau

Prisiau gostyngol ar ystafelloedd, offer a hyfforddiant.

Mynnwch wrandawiad

Byddwn yn cynrychioli eich llais gyda chyrff sector lleol yn Sir Gaerfyrddin. Mwy am y buddion

Meini Prawf Cymhwysedd

Mae aelodaeth yn agored i grwpiau gwirfoddol lleol a mudiadau cymunedol sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Gwasanaethu cymuned neu gymunedau yn Sir Gaerfyrddin
  • Gweithredu ar sail nid er mwyn elw a nodau elusennol
  • Mae hyn yn cynnwys elusennau, MEYau, grwpiau cyfansoddedig bychain, cwmnïau cyfyngedig trwy warant, cwmnïau budd cymunedol a mentrau cymdeithasol
eligibilty

Rhai o’n haelodau anhygoel

Camau i ddod yn aelod

1. Gwneud cais

Llanwch y ffurflen gais. Byddwn yn gwirio eich manylion ac yn cysylltu â chi am y camau nesaf.

2. Danfon dogfennau

Byddwn yn gofyn ichi ddanfon eich dogfen Lywodraethu a 3 dogfen bolisi:

  • Iechyd & Diogelwch
  • Diogelu
  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth & Chynhwysiad

3. Sgwrsio â ni

Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu amser i gael sgwrs a chwblhau eich proses gwneud cais am aelodaeth.