Llwybrau Porffor 2006 – 2019

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Prosiect Chwarae Llwybrau Porffor 2006 - 2019

Logo Llwybrau Porffor
Roedd Llwybrau Porffor yn hyrwyddo chwarae plant ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a thu hwnt drwy sesiynau chwarae, partïon, digwyddiadau, hyfforddiant, llogi adnoddau a mwy.

Roedd prosiect chwarae ‘Llwybrau Porffor’ yn hyrwyddo hawl y plentyn i chwarae. Llwybrau Porffor oedd y prif wasanaeth chwarae mynediad agored a oedd yn darparu chwarae mynediad agored am ddim i blant a phobl ifanc ledled Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.  

Cynhaliodd y timau Chwarae sesiynau ledled Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Roedd y sesiynau hyn wedi’u hamserlennu a’u hamrywio drwy gydol y flwyddyn.   

Roedd ein sesiynau’n cynnwys: Denbuilding, modelu sothach, sleidiau dŵr, chwaraeon, celf a chrefft, chwarae rôl, sgiliau syrcas a mwy. Darparwyd yr adnoddau a dewisodd y plant sut i chwarae gyda nhw.

 

Hanes y Prosiect 

Ym mis Awst 2006 rhoddwyd contract i Chwarae Cymru i weithio’n strategol ar y rhaglen Chwarae Plant ar ran y Loteri Fawr. Trwy’r rhaglen hon rhannwyd cyfanswm gwerth £13m o grantiau ar gyfer Cymru gyfan. 
 
Canolbwyntiodd Rownd 1 y rhaglen ar ddatblygu’r seilwaith angenrheidiol ar gyfer darparu chwarae ac ar edrych ar y darlun strategol ar draws Cymru. 
 
Yn Rownd 2 rhoddwyd grantiau i rwydweithiau chwarae rhanbarthol oedd yn cynnig cyfleoedd Chwarae uniongyrchol. Roedd y rhaglen Chwarae Plant yn canolbwyntio ar ffyrdd newydd o ddarparu prosiectau chwarae wedi’u staffio ac roedd yn disgwyl i brosiectau gynnig mentrau chwarae creadigol oedd yn cynnig cyfleoedd heriol ac amrywiol. 
 
Yn hwyr yn 2006 daeth grŵp o bobl o Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn cynnwys swyddogion o’r Cymdeithasau Gwirfoddol Sirol, Awdurdodau Lleol a mudiadau trydydd sector, at ei gilydd i weithio allan sut orau i adeiladu cais seilwaith er mwyn darparu Cymdeithas Chwarae ar gyfer yr ardal.
 
Cyflogwyd Cydlynydd i ddatblygu’r cais i’r dyfodol. Aeth y grŵp hwn ymlaen i gyflwyno cais llwyddiannus am gyllid 3-blynedd ar gyfer Llwybrau Porffor, prosiect Chwarae Plant gyda CAVS yn sefydliad arweiniol. Yn ogystal â’r Cydlynydd, roedd tîm Llwybrau Porffor yn cynnwys 2 Swyddog Datblygu, (un ar gyfer Sir Gaerfyrddin, y llall yn Sir Benfro) Gweithiwr Adnoddau a staff Gweinyddol ynghyd ag 8 Gweithiwr Chwarae (tîm o 4 ar gyfer y naill sir a’r llall).
 
Mae’r holl staff oedd yn rhan o’r prosiect yn anhygoel. Maent wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, gan gynnig sesiynau chwarae Mynediad Agored ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol, rhedeg sesiynau mewn ysgolion dros ginio a darparu sesiynau anhygoel mewn Dyddiau Hwyl ac yn Sioe Sir Benfro, yn ogystal â hyfforddiant ar agweddau o Chwarae megis Chwarae yn Natur.
 
Cyfrannodd CAVS at archwiliadau Digonolrwydd Chwarae ar draws y ddwy sir, ac fe gynhyrchodd yr adroddiad cyntaf ar gyfer Sir Benfro, a’u cynorthwyodd i sicrhau arian ar gyfer Swyddog Chwarae.
 

Diwedd y prosiect

Mae’n dristwch mawr inni orfod rhoi gwybod ichi y bu’n rhaid i CAVS wneud y penderfyniad anodd i gau Llwybrau Porffor gan na lwyddwyd i sicrhau rhagor o gyllid ar ei gyfer.

Mae diwedd y prosiect yn golygu y gadawyd miloedd o blant ar draws y ddwy sir heb unrhyw ddarpariaeth chwarae Mynediad Agored ac nid ydynt mwyach yn gallu cysylltu â’n tîm o staff ymroddedig.

Hoffem ddiolch i’r holl blant a ddefnyddiodd y ddarpariaeth ac a lywiodd waith y timau trwy ddewis eu chwarae ac i’r holl rieni am ein cefnogi.

Rhaid rhoi gair enfawr o ddiolch i’r staff a wnaeth y prosiect hwn yn gymaint o lwyddiant a hoffem ddiolch hefyd i’n partneriaid yn PAVS a swyddogion o’r ddau awdurdod lleol a roddodd eu cefnogaeth lwyr i’n gwaith.