Mae swyddfa CAVS ar gau
Mae swyddfa CAVS ar gau i ymwelwyr yn dilyn arweiniad y Llywodraeth ynghylch Coronafeirws.
Mae staff CAVS yn dal i fod yma i’ch cefnogi chi!
Rydym yn gweithio gartref, mae eich galwadau’n cael eu dargyfeirio ac mae gennym e-byst.
Cysylltwch â ni os gallwn wneud unrhyw beth i’ch helpu yn ystod yr amser heriol hwn.
Byddwn yn parhau ar gau am gyfnod nes bydd y cyngor yn newid.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu trwy ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n e-fwletinau rheolaidd.
Oriau agor
Mae ein llinellau ffôn ar agor rhwng 9am tan 5pm, dydd Llun i ddydd Iau a 9am tan 4:30pm dydd Gwener.

Swyddfa CAVS
Gall Canolfan Y Mwnt gynnig y cyfleusterau canlynol:
- tair ystafell gyfarfod
- ystafell hyfforddiant
Mae pob ystafell yn hygyrch i gadeiriau olwyn:
- Mynedfa wastad i’r fynedfa flaen ar Stryd y Frenhines
- Drysau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn
- Lifft i bob llawr
- Tai bach i bobl anabl
Gwasanaethau Cymorth Swyddfa
Mae CAVS hefyd yn darparu nifer o wasanaethau ymarferol gan gynnwys benthyg offer hyfforddiant, a hurio ystafell gyfarfod yn y swyddfa yng Nghaerfyrddin – gweler Gwasanaethau Cymorth Swyddfa CAVS
(Nid ydym yn gallu darparu’r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd oherwydd y pandemig. )