Rydym yn casglu llawer o’r adnoddau ariannu at ei gilydd mewn un lle – y Padlet Cyllid.
Byddwn yn parhau i ychwanegu mwy o enghreifftiau wrth i ni ddod o hyd iddynt, felly dewch yn ôl i wirio yn rheolaidd
Sut all CAVS helpu
Mae CAVS yn ceisio cefnogi mudiadau i sicrhau a chynhyrchu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i dyfu, goroesi a chynnal eu mudiadau.
Gallwn helpu mudiadau i ddatblygu a darparu prosiectau a gwasanaethau sy’n rhoi sylw effeithiol i anghenion a nodwyd, gweithredu atebion seiliedig ar dystiolaeth ac arfer gorau; ac sy’n annog y defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau a gwaith partneriaeth traws-sector.
Gall CAVS helpu gyda
- datblygu strategaethau cyllido gan gynnwys ffyrdd o ddargyfeirio incwm a thorri costau
- paratoi cyllidebau prosiectau ar gyfer incwm a gwariant
- canllawiau ar ddefnyddio gwefan gyllido rad ac am ddim Cyllido Cymru (gweler isod)
- gwybodaeth am gyfleoedd cyllido newydd trwy ddiweddariadau
- cynnig sylwadau ar geisiadau cyllid drafft
- cynlluniau grantiau bychain
- cyfleoedd dysgu a datblygu (rhwydweithio, hyfforddiant & digwyddiadau)
- mynediad at gefnogaeth i ddatblygu cyllido torfol

Mudiadau defnyddiol
Gwybodaeth ddefnyddiol
Adnoddau Hwb Gwybodaeth CTSC
Mae’r Hwb Gwybodaeth yn lle sy’n eich galluogi i ddysgu a chysylltu ag eraill ar draws y Trydydd Sector. Mae’r Hwb Gwybodaeth yn darparu gwahanol fathau o wybodaeth ddigidol ac adnoddau dysgu.
Trowch at Adran Adnoddau Ariannu Cynaliadwy yr Hwb Gwybodaeth lle y gallwch lawr lwytho canllawiau a dogfennau gwybodaeth PDF ar bynciau perthnasol.
Cyllido Cymru
Cyllido Cymru yw’r llwyfan i chwilio am gyllid i’r trydydd sector yng Nghymru.
Fe’i datblygwyd gan rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru i alluogi mudiadau trydydd sector i chwilio drwy gannoedd o gyfleoedd am grantiau ac arian benthyg o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.