Cynllun Grant Comic Relief
Mae Cronfa Cefnogi COVID-19 Sir Gaerfyrddin yn gynllun a gefnogir gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) a Comic Relief drwy arian wedi codi o’r Big Night In.
Astudiaethau Enghreifftiol 2021-22
Cronfa Adferiad Covid-19 Sir Gâr
Ariannwyd Cronfa Adfer Covid 19 Sir Gaerfyrddin gan Lywodraeth Cymru a Comic Relief, ac fe’i rheolwyd gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) i sicrhau adferiad teg a chyfiawn o COVID-19, yn enwedig drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a ddaeth yn fwy amlwg/gwaethygol drwy’r pandemig.
Astudiaethau Enghreifftiol 2021-22
Cronfa Ymateb Cymunedol COVID-19 Sir Gâr
Roedd Cronfa Ymateb Cymunedol COVID-19 Sir Gaerfyrddin yn gynllun ar y cyd a gefnogwyd gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS), Cyngor Sir Caerfyrddin, LEADER, Cronfa Eglwysi Cymru, Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a Llywodraeth Cymru.
Nod y grant oedd cefnogi sefydliadau’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin i: gynnal neu gynyddu gweithgareddau a oedd yn cefnogi’r rhai sy’n agored i niwed yn ystod argyfwng y Coronafeirws (COVID-19), sicrhau bod gan sefydliadau/grwpiau cymunedol yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer eu cymunedau, ac annog protocolau iechyd a diogelwch cadarn yn ystod yr holl weithgareddau a oedd yn diogelu staff y sector gwirfoddol, gwirfoddolwyr, cynorthwywyr a buddiolwyr.