Dysgu

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Dysgu a datblygu

Rydym yn darparu cyfleoedd dysgu a datblygu er mwyn gwella sgiliau, ymddygiadau a gwybodaeth ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr mewn mudiadau trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin.

Credwn, trwy greu diwylliant o ddysgu parhaus, y gall mudiadau esblygu a datblygu’n gyson ac y gallant drwy hynny gyfrannu at sector gwirfoddol mwy effeithiol a gwydn.

Rydym yn trefnu sesiynau hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ar Lywodraethiant DaYmgysylltu a dylanwaduCyllido cynaliadwy a Gwirfoddoli yn ogystal â chyrsiau ar arfer gorau a chydymffurfiaeth, er enghraifft, Lefel 3 Cymorth Cyntaf Brys yn y gwaith.

Mae’r porth dysgu ar-lein yn cynnig nifer o gyrsiau y gall unigolion eu cwblhau yn eu hamser eu hunain. 

Mae ffyrdd eraill o allu dysgu ac rydym yn cynnwys gwybodaeth am y rhain isod.

Rydym wedi sefydlu Rhwydwaith Dysgu a Datblygu i alluogi mudiadau trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin i rwydweithio, rhannu arfer gorau a datblygu mentrau dysgu cydweithredol newydd.  Mae croeso i unrhyw un sy’n cefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu yn eu mudiadau.

Cysylltwch â Andy Fair ar training@cavs.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

Porth Dysgu Ar-lein CAVS ​

Mae CAVS wedi sefydlu porth dysgu ar-lein newydd ar gyfer gwirfoddoli, lle y byddwch yn gallu gwneud ein cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim yn eich amser eich hun. Mae cyrsiau ar gyfer pobl sydd eisiau gwirfoddoli neu sydd eisoes yn gwirfoddoli yn ogystal ag ar gyfer mudiadau sy’n defnyddio gwirfoddolwyr. Mae cyrsiau hefyd ar hyder, cyfrinachedd, cadw’n ddiogel a Cysylltu â Charedigrwydd.

We would love to get your feedback on these courses which will help us to continually improve. So please complete this short survey after finishing each course:  https://www.surveymonkey.co.uk/r/XW9JXK9

Alternatively, you can send your comments to training@cavs.org.uk.

Ffynonellau dysgu eraill

Porth Dysgu Cefnogi Trydydd Sector Cymru

Mae nifer o gyrsiau dwyieithog rhad ac am ddim ar gyfer staff a gwirfoddolwyr ar gael ar lwyfan dysgu Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Ceir adnoddau yma hefyd ar Lywodraethiant DaYmgysylltu a dylanwaduCyllido cynaliadwy a Gwirfoddoli.

Cyfrifon Dysgu Personol

Caiff Cyfrifon Dysgu Personol eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru ac maent yn rhoi cyfle i unigolion astudio’n rhan-amser mewn coleg yng Nghymru, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb neu gyfuniad o’r ddau ac ennill y sgiliau a’r cymwysterau maen nhw eu hangen i newid eu gyrfa neu symud ymlaen yn eu swydd bresennol.

Ceir meini prawf cymhwysedd a manylion ar wefan Gyrfa Cymru: Cyfrifon Dysgu Personol | Gyrfa Cymru (gov.wales)