Croeso i'n Porth Dysgu ar-lein
Yma gallwch gymryd ein cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim yn eich amser eich hun.
Mae nifer o gyrsiau ar wirfoddoli – ar gyfer pobl sydd eisiau gwirfoddoli neu sy’n gwirfoddoli’n barod – ac ar gyfer mudiadau sy’n defnyddio gwirfoddolwyr. Mae Rheoli Gwirfoddolwyr yn gwrs deuddeg modiwl cynhwysfawr. Mae cyrsiau hefyd ar cyfrinachedd a chadw’n ddiogel.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch nhw at training@cavs.org.uk.