Cychwyn Eich Mudiad Gwirfoddol

Medi 09, 2024 @ 10:00

Cost: Am ddim

Lleoliad: Swyddfa CAVS, Caerfyrddin

Cofrestrwch Yma

Mae gennych syniad gwych ar gyfer mudiad gwirfoddol newydd ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Nid ydych ar eich pen eich hun. Mae cychwyn ar y daith hon yn gallu codi braw, ond nid oes
rhaid i ddod o hyd i’r atebion iawn fod yn her.

Nod ein cwrs yw eich tywys gam wrth gam trwy’r broses o lansio eich mudiad newydd. Byddwn yn dechrau trwy eich helpu i benderfynu ar eich dibenion elusennol ac edrych ar y gwahanol fathau o strwythurau elusennol sydd ar gael. Byddwn wedyn yn eich cynorthwyo i greu dogfen lywodraethu gadarn ac yn eich tywys trwy’r dasg hollbwysig o recriwtio ymddiriedolwyr. Mae ein cynllun trefnus yn golygu y byddwch yn edrych ar yr holl elfennau hanfodol, gan wneud y daith o syniad i realiti yn fwy esmwyth a hylaw.

Os ydych angen gwybodaeth fanylach neu os hoffech gael arweiniad mwy personol, mae ein tîm Llywodraethiant pwrpasol yma i helpu. Gallant gynnig cefnogaeth un ac un, a gweithio’n agos gyda chi i ddod â’ch gweledigaeth yn fyw.