Cydraddoldeb, Amrywiaeth & Chynhwysiant

Hydref 07, 2024 @ 10:00

Cost: Am ddim

Lleoliad: Swyddfa CAVS, Caerfyrddin

Cofrestrwch Yma

Byddwch yn barod i eiriol dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gyda’n cwrs hyfforddiant ymrymusol! Bydd y profiad trawsnewidiol hwn yn cyfoethogi eich dealltwriaeth o wahaniaethau rhwng pobl ac yn tanlinellu pwysigrwydd trin pawb gyda thegwch a pharch.

Yn y cwrs hwn, byddwch yn cloddio i ganol egwyddorion craidd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn edrych ar ddeddfwriaeth allweddol ac ar effaith gwahaniaethu a mathau eraill o
ymddygiad annerbyniol. Byddwn hefyd yn mynd i’r afael â chysyniad hollbwysig Tuedd Ddiarwybod, gan edrych ar sut mae’n effeithio ar berfformiad unigolion a sefydliadau. Byddwch yn dysgu strategaethau effeithiol ar gyfer mynd i’r afael ag agweddau mewn ffordd sy’n meithrin dealltwriaeth ac yn lleihau gwrthdaro.

Ein nod yw eich helpu i greu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol i’ch staff, gwirfoddolwyr, a defnyddwyr gwasanaethau, gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.