Agorwch y drws ar yr arbenigedd ariannol y mae ymddiriedolydd ei angen gyda’r cwrs hwn sy’n anelu at gael gwared â dirgelion cyllid elusennau!
Hyd yn oed os oes gan eich elusen arbenigydd ariannol yn barod, mae pob ymddiriedolydd yn gyfrifol am oruchwylio sefyllfa ariannol y mudiad. Golyga hynny fod angen i bob ymddiriedolydd ddeall materion ariannol, cymryd rhan mewn adolygiadau cyllidebol, a chymeradwyo adroddiadau ariannol. Mae dod o hyd i’ch ffordd trwy faterion ariannol yr elusen yn gallu swnio’n anodd, o gofio’r agweddau cyfrifo unigryw. Mae ein cwrs yn torri’r cyfan i lawr yn ddarnau hylaw, gan sicrhau eich bod yn cael gafael ar yr hanfodion i sicrhau bod eich mudiad yn parhau i weithredu’n
effeithiol.
Fe gewch olwg ar faterion ariannol elusen, o fantolenni a chyllidebau i gyfrifon rheoli, llif arian, a chyfrifon blynyddol. Mae’r cwrs hwn yn anelu at eich grymuso gyda’r wybodaeth a’r hyder i reoli cyllid eich elusen, hyd yn oed os nad oes gennych fawr ddim profiad blaenorol os o gwbl.