Mewn oes lle y mae’r galw am argraff gymdeithasol yn tyfu ac adnoddau yn mynd yn fwyfwy cystadleuol, mae sicrhau cyllid cynaliadwy yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant a hirhoedledd mudiadau yn y trydydd sector. Mae’r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a sgiliau hanfodol i ymddiriedolwyr a swyddogion cyllid i allu datblygu strategaethau ariannol cadarn ac amrywio eu ffynonellau cyllido.
Byddwn yn edrych ar y dewisiadau cyllido sydd ar gael yn y trydydd sector ar hyn o bryd, pwysigrwydd cynllunio strategol ar gyfer cynaliadwyedd ariannol a phwysigrwydd mesur effaith prosiect wrth ddenu a chadw cyllid. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych ddealltwriaeth dda o strategaethau cyllido cynaliadwy er mwyn gwella gwytnwch ariannol eich mudiad.
Ymunwch â ni i adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer eich mudiad a gwneud argraff barhaus yn y cymunedau a wasanaethwch!