Dod yn Gyflogwr Lles (Rhaglen Gweithio’n Dda)

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Medi 21, 2021 @ 9:30am

Cost: Am ddim

Lleoliad: Ar lein

Cofrestrwch Yma

Pa mor hyderus ydych chi yn cefnogi llesiant eich timau?

A ydych chi’n barod i ddechrau cynllunio ar gyfer llesiant staff yn y dyfodol?

Gwyddom ei bod yn gyfnod prysur, ond yn sgil COVID-19, nid yw erioed wedi bod mor allweddol mynd i’r afael â llesiant meddyliol a chorfforol staff. Gall straen ein hatal rhag canolbwyntio’n llawn a gwneud ein gwaith gorau. Pan gaiff ei adael i waethygu, gall straen arwain atoch yn llosgi’r gannwyll yn ei deupen, datgysylltu, diwrnodau o salwch, a pherthnasoedd dan straen â chydweithwyr.

Gall bod yn rhagweithiol ynghylch iechyd meddwl a chefnogaeth gyda llesiant yn y gwaith gynnig buddsoddiad posibl yn gyfnewid o hyd at 5:1 a chyflwyno gwelliannau sylweddol o ran gwaith tîm, cynhyrchedd unigol a dargadwedd staff.

Gall fod yn anodd gwybod sut i ysgrifennu Polisi Llesiant, neu sut i newid eich strwythurau i gefnogi unigolion sy’n ei chael hi’n anodd. Mae’n anodd cydbwyso anghenion busnes a therfynau amser â lleihau straen a datblygu tîm. Mae ein Rhaglen Gweithio’n Dda yn cynnwys 3 cham syml i wella eich ymarfer a magu eich hyder i fynd i’r afael â llesiant.

Gellir cwblhau ein Rhaglen Gweithio’n Dda mewn cyn lleied ag un neu ddau fis – mae gennych hyd at chwe mis i gwblhau’r tri cham – mae pob un ohonynt yn rhad ac am ddim i fusnesau bach a chanolig sy’n gymwys o dan gyllid ESF (gweler y ffurflen gofrestru).

Mae ein Rhaglen Gweithio’n Dda yn rhad ac am ddim i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gyda diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Hyd yn hyn, rydym wedi cefnogi bron i 300 o fusnesau gyda’n hyfforddiant ac ymgynghoriaeth wedi’u hariannu’n llawn.