Gwersyll Cymunedol digidol Prosiect Eden (1 & 2 Hydref)

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Medi 10, 2021

Cost: Am ddim

Lleoliad: Ar lein

Cofrestrwch Yma

Mae Cymunedau Prosiect Eden yn cynnal Gwersyll Cymunedol ar lein AM DDIM – profiad dysgu, ysbrydoledig, byr gyda chymysgedd o sesiynau rhyngweithiol a chyfleoedd rhwydweithio i bobl o bob rhan o’r DU.

Mae’r gwersyll hwn wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer pobl ar ddechrau eu taith wirfoddoli, sydd am gymryd eu camau cyntaf i gynnwys y gymuned, datblygu syniadau neu weithgareddau, a helpu i wella eu cymdogaeth a’u cymuned. Bydd y gwersyll yn cyflwyno mynychwyr i rwydwaith cefnogol o bobl gadarnhaol i helpu i fagu hyder a chysylltiadau defnyddiol ledled y DU.

Bydd y Gwersyll Cymunedol ar-lein yn cael ei gynnal dros 2 ddiwrnod; sesiwn gyda’r nos ddydd Gwener 1 Hydref, a diwrnod llawn o sesiynau ar draws dydd Sadwrn 2 Hydref. Bydd yn ddeuddydd o lawenydd, dysgu a rhannu ac mae’n debygol y bydd cyfranogwyr yn cynyddu hyder, cyfeillgarwch a chefnogaeth sy’n aros ymhell ar ôl i’r gwersyll ddod i ben.

Mae’r ceisiadau ar agor nawr. Am ragor o wybodaeth, ac i wneud cais ewch i: https://www.edenprojectcommunities.com/cy/gwersyll-cymunedol-0