Cynlluniwyd y Cwrs Hyfforddiant Hylendid Bwyd Lefel 3 ar gyfer rheolwyr a goruchwylwyr i’w helpu i ddeall eu cyfrifoldebau beunyddiol hanfodol, gan gynnwys sut i weithredu elfennau sylfaenol system rheoli diogelwch bwyd HACCP.
Mae’r cwrs hwn yn darparu gwybodaeth am arferion a chyfrifoldebau cyfreithiol hylendid bwyd ac yn rhoi mwy o fanylion am y rheolyddion y gellir eu defnyddio i sicrhau bod y broses trin bwyd mor ddiogel a hylan ag y bo modd. Mae’r cwrs yn defnyddio nifer o dechnegau gwahanol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r dysgwyr ar sut i gydymffurfio â, a chynnal, cyfraith diogelwch bwyd yn eu gweithle.
Cwrs gloywi undydd yw hwn sydd ond ar gael i bobl sydd eisoes wedi gwneud y cwrs Hylendid Bwyd Lefel 2 gyda CGGSG. Mae cwrs 3-diwrnod llawn hefyd ar gael – cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.