Iechyd Meddwl yn y Gwaith

Hydref 18, 2024 @ 10:00

Cost: Am ddim

Lleoliad: Swyddfa CAVS, Caerfyrddin

Cofrestrwch Yma

Yn 2024, ychwanegodd y Gweithgor Iechyd & Diogelwch ystyriaethau iechyd meddwl at asesiadau o anghenion cymorth cyntaf. Fel cymhorthydd cyntaf, efallai y bydd rhaid i chithau gefnogi rhywun ag afiechyd meddwl, ac mae’n bwysig y gallwch gymryd camau priodol i helpu yn brydlon, diogel ac effeithiol.

Bydd y cwrs hwn yn cyfoethogi gwybodaeth y dysgwr am iechyd/afiechyd meddwl trwy drafodaethau, gweithgareddau ac astudiaethau enghreifftiol dan arweiniad hyfforddydd. Byddwn yn edrych ar afiechydon meddwl cyffredin, pwysigrwydd empathi wrth gyfathrebu’r stigma a’r effaith a gaiff ar iechyd meddwl a manteision diwylliant iechyd meddwl cadarnhaol yn y gweithle.